Medi 2024
Siaradwr Gwadd:
Mark Jones
Cyfarwyddwr – Higher Plain Research & Education Ltd
Athro Gwadd – Canolfan Troseddeg, Prifysgol De Cymru
Chwyddwydr Gweithgorau:
Gwybodaeth a Sgiliau ar Waith
Bronwyn Roane and Dr Katie Brown
Cynhaliodd y Grŵp Llywio ar Weithredu (ISG) gyfarfod heddiw a oedd yn cynnwys sesiwn gyda Mark Jones i siarad am y gwaith trawma hiliol presennol a sut i’w roi ar waith o ran ymgysylltu â phrofiadau bywyd.
Bu trafodaeth rhwng Mark a’r aelodau am yr hyn y mae’r llenyddiaeth yn ei ddweud wrthym am y profiad o drawma hiliol a’r angen i gofleidio cymhlethdod hyn drwy ddefnyddio gwybodaeth, hyfforddiant ymarferol, rhannu profiadau a chyflawni hyfforddiant mewn Cyfiawnder Troseddol.
Rhoddodd y sesiwn addysgiadol hon gyfle i aelodau ystyried sut mae ein gwaith yn croestorri ac yn cyd-fynd â Chymru wrth-hiliol ac yn ymrwymo i ddatblygu gwybodaeth am drawma hiliol, a’r profiad bywyd ohono.
Mae’r ISG wedi ymrwymo i gynnig sesiwn sbotolau i gyd-gadeiryddion ein gweithgorau yn y cyfarfodydd a’r gweithgor Gwybodaeth a Sgiliau ar Waith oedd y criw cyntaf i gynnal sesiwn yn y cyfarfod heddiw.
Bu’r cyd-gadeiryddion Katie Brown o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a Bronwyn Roane o’r Hyb ACE yn trafod eu gweledigaeth ar gyfer y grŵp a sut y byddant yn tynnu ar argymhellion o ymchwil ddiweddar i gefnogi eu cynlluniau ar gyfer cyflawni.