Cymru sy'n Ystyriol o Drawma

Ymagwedd Gymdeithasol at Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd

Fframwaith holl-gymdeithas i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu ymarfer sy’n ystyriol o drawma ledled Cymru, gan ddarparu’r cymorth gorau posibl i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Mynediad i'r Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma

Mae’r Fframwaith yn sefydlu sut mae unigolion, teuluoedd/rhwydweithiau cymorth eraill, cymunedau, sefydliadau a systemau yn ystyried adfyd a thrawma, gan gydnabod a chefnogi cryfderau unigolyn i oresgyn y profiad hwn yn eu bywydau. Mae hefyd yn nodi’r cymorth y gallant ddisgwyl ei gael gan y sefydliadau, y sectorau a’r systemau y gallant droi atynt am gymorth. Mae’n cynnwys pobl o bob oed, o fabanod, plant a phobl ifanc hyd at oedolion hŷn.

Mae’r Fframwaith yn darparu diffiniad Cymru o ddull sy’n ystyriol o drawma, a set o bum egwyddor sy’n sail i bedair lefel ymarfer sy’n disgrifio’r gwahanol rolau y gall pobl a sefydliadau eu cael wrth gefnogi pobl y mae trawma’n effeithio arnynt. Mae’r lefelau’n ymestyn o ymwybyddiaeth gymdeithasol bod trawma ac adfyd yn bodoli a chydnabod y cyflwyniadau lluosog o effeithiau trawma; i galluogi gwasanaethau i gefnogi ymarfer sy’n helpu pobl i deimlo’n gysylltiedig, eu gwerthfawrogi ac yn ddiogel, hyd at ymyriadau clinigol arbenigol, sydd wedi’u personoli ac wedi’u cyd-gynhyrchu, pan fod angen rhain.

Datblygwyd y Fframwaith ar y cyd â Grŵp Cyfeirio Arbenigol a oedd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o Gymru a phobl â phrofiad bywyd, a chyda phobl a sefydliadau ledled Cymru drwy ymgynghoriad cyhoeddus. Cefnogir y Fframwaith gan Lywodraeth Cymru.

Lawrlwytho'r adroddiad Agor yn y porwr

Wedi’i ddatblygu ar y cyd â phobl a sefydliadau ledled Cymru ac wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru

Adnoddau Diweddaraf

Hyfforddiant ac Adnoddau sy’n Ystyriol o Drawma: Mapio ac Adnabod Bylchau

Cymorth o’r Galon

Fframwaith Drawma: Animeiddiad