Mae Cymru sy'n Ystyriol o Drawma yn defnyddio Dull Iechyd Cyhoeddus o ddatblygu Cymru sy’n ystyriol o drawma: rydym yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau academaidd ac ymarferol i lywio ein gwaith ac arddangos effaith.
Rydym yn ceisio darparu cymorth ac arweiniad sy’n seiliedig ar dystiolaeth i unrhyw un sydd angen cyngor ar sut i roi dulliau sy’n seiliedig ar drawma ar waith yn eu sefydliad, cymuned, sector neu system.
Rydym hefyd yn ymrwymo i werthuso, myfyrio ac adolygu fel rhan o’n model gweithredu; i hyrwyddo dysgu parhaus a datblygiad gwybodaeth a doethineb a llywio ‘beth sy’n gweithio’ a chynyddu ymyriadau ymarferol.
Yn ystyried hyfforddiant ac adnoddau a ddisgrifir fel dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma yng Nghymru, a sut maent yn cyd-fynd ag egwyddorion a lefelau ymarfer Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma. Mae'r ymchwil a gynhaliwyd yn ceisio deall yr heriau i ddarparwyr o ran deall y Fframwaith ac asesu sut mae eu deunyddiau'n cyd-fynd ag ef, a sut y gellid goresgyn yr heriau hyn.
Gwrando a dysgu gan bobl sydd â phrofiad o ddefnyddio sylweddau a gwasanaethau ceiswyr noddfa yng Nghymru.
Mae Hyb ACE Cymru wedi comisiynu’r adroddiad annibynnol hwn, i gynorthwyo datblygiad cronfa yng Nghymru sy’n darparu cymorth ariannol i’r rheini sy’n ddioddefwyr trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd (SGBV) ac nad oes ganddynt unrhyw hawl i arian cyhoeddus.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ddogfen ymgynghori ‘Cymru sy’n Ystyriol o Drawma: Dull Cymdeithasol o Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd’ a gynhyrchwyd gan Hyb ACE Cymru a Straen Trawmatig Cymru.