Mae Cymru sy'n Ystyriol o Drawma yn defnyddio Dull Iechyd Cyhoeddus o ddatblygu Cymru sy’n ystyriol o drawma: rydym yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau academaidd ac ymarferol i lywio ein gwaith ac arddangos effaith.
Rydym yn ceisio darparu cymorth ac arweiniad sy’n seiliedig ar dystiolaeth i unrhyw un sydd angen cyngor ar sut i roi dulliau sy’n seiliedig ar drawma ar waith yn eu sefydliad, cymuned, sector neu system.
Rydym hefyd yn ymrwymo i werthuso, myfyrio ac adolygu fel rhan o’n model gweithredu; i hyrwyddo dysgu parhaus a datblygiad gwybodaeth a doethineb a llywio ‘beth sy’n gweithio’ a chynyddu ymyriadau ymarferol.
Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae dulliau ystyriol o drawma wedi cael eu hymgorffori fwyfwy mewn polisi ac ymarfer ar draws ystod eang o sectorau yng Nghymru. Yn ganolog i’r dulliau hyn mae iaith. Mae’r termau a ddefnyddir i ddisgrifio trawma, diogelwch, ymddiriedaeth ac adferiad yn siapio sut mae gweithwyr proffesiynol yn deall profiadau o adfyd a sut mae systemau yn ymateb iddynt. Mae’r papur hwn yn archwilio’r rhan y mae iaith yn ei chwarae mewn gwaith ystyriol o drawma.
Mae TIPSS yn darparu sgiliau ymarferol i gefnogi pobl a sefydliadau sy'n gweithio ar lefelau ymarfer trawma-fedrus a trawma-well o Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma. Cynlluniwyd yr hyfforddiant i feithrin hyder a gallu ymhlith staff rheng flaen sy'n cefnogi unigolion sydd wedi profi trawma, neu sy'n profi trawma ar hyn o bryd.
Mae'r adroddiad hwn yn rhannu canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg o gyflwyno prawf-o-gysyniad TIPSS ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy'n gweithio gydag oedolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r canlyniadau cynnar yn awgrymu mwy o hyder ymhlith cyfranogwyr wrth gymhwyso technegau sy'n ystyriol o drawma. Nodwyd sawl maes i lywio'r cyfnod peilot ehangach.
Mae TIPSS yn darparu sgiliau ymarferol i gefnogi pobl a sefydliadau sy'n gweithio ar lefelau ymarfer trawma-fedrus a trawma-well o Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma. Cynlluniwyd yr hyfforddiant i feithrin hyder a gallu ymhlith staff rheng flaen sy'n cefnogi unigolion sydd wedi profi trawma, neu sy'n profi trawma ar hyn o bryd.
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg cychwynnol o Ymarfer, Sgiliau a Strategaethau sy’n Ystyriol o Drawma ar gyfer Plant a Phobl Ifanc TIPSS-CYP, a weithredwyd ar draws saith safle peilot i gefnogi ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Er nad yw'n werthusiad llawn, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gynnydd cynnar addawol ac yn cynnig cipolwg ar lunio model gweithredu a llywodraethu yn y dyfodol.
Gwrando a dysgu gan bobl sydd â phrofiad o ddefnyddio sylweddau a gwasanaethau ceiswyr noddfa yng Nghymru.
Yn ystyried hyfforddiant ac adnoddau a ddisgrifir fel dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma yng Nghymru, a sut maent yn cyd-fynd ag egwyddorion a lefelau ymarfer Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma. Mae'r ymchwil a gynhaliwyd yn ceisio deall yr heriau i ddarparwyr o ran deall y Fframwaith ac asesu sut mae eu deunyddiau'n cyd-fynd ag ef, a sut y gellid goresgyn yr heriau hyn.
Mae Hyb ACE Cymru wedi comisiynu’r adroddiad annibynnol hwn, i gynorthwyo datblygiad cronfa yng Nghymru sy’n darparu cymorth ariannol i’r rheini sy’n ddioddefwyr trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd (SGBV) ac nad oes ganddynt unrhyw hawl i arian cyhoeddus.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ddogfen ymgynghori ‘Cymru sy’n Ystyriol o Drawma: Dull Cymdeithasol o Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd’ a gynhyrchwyd gan Hyb ACE Cymru a Straen Trawmatig Cymru.
Mae Adroddiad ar gael.
Mae Adroddiad ar gael.