Rhagfyr 2025
Siaradwr Gwadd:
Jacqui Couch and Kate Hammond
Dîm Dylunio Canolfan Ganser Felindre
Bryony Parry
Tîm Atal Trais
Chwyddwydr Gweithgorau:
Plant a Phobl Ifanc
Siobhan Parry and Thomas Hoare
Cyfarfu Grŵp Llywio Gweithredu Cymru sy’n Ystyriol o Drawma (ISG) heddiw. Roedd ffocws y cyfarfod ar sut rydym yn datblygu amgylcheddau ffisegol yn ein gweithleoedd a ble rydym yn cael mynediad at wasanaethau. Ymwelodd y grŵp â chanolfan gymorth New Pathways a agorwyd yn ddiweddar ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol yn Rothbury House yng Nghasnewydd.
New Pathways yw’r darparwr cymorth trais rhywiol mwyaf yng Nghymru. Mae gan y sefydliad elusennol 30 mlynedd o brofiad o ddarparu cymorth therapiwtig arbenigol i oedolion a phlant. Rhoddodd y ganolfan newydd, sydd wedi trawsnewid adeilad a fu gynt yn adfeiliedig yn ofod ffisegol sy’n ystyriol o drawma, gyfle i’r grŵp roi’r Adolygiad o Egwyddorion Ymarfer sy’n ystyriol o TrACE ar gyfer Amgylcheddau Ffisegol ar waith a deall pa effaith y gall gweithredu’r dull hwnnw ei chael. Diolch yn fawr iawn i gydweithwyr yn New Pathways am hwyluso ein hymweliad a’n croesawu ni.
I gael rhagor o wybodaeth am New Pathways a’r gwasanaethau mae’r sefydliad yn eu cynnig, ewch i: https://www.newpathways.org.uk/
Cynhaliodd Grŵp Llywio Gweithredu Cymru sy’n Ystyriol o Drawma ei gyfarfod mis Rhagfyr heddiw yng Nglan yr Afon, Casnewydd. Prif thema’r drafodaeth oedd dealltwriaeth o amgylchedd ffisegol sy’n ystyriol o drawma. Lansiodd Natalie Blakeborough, dirprwy Arweinydd Hyb ACE Cymru, yr Animeiddiad Mannau Ffisegol, sy’n cefnogi’r canllaw Amgylcheddau Ffisegol sy’n Ystyriol o Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE). Mae’r canllaw hwn yn cynorthwyo sefydliadau sy’n gweithredu Pecyn Cymorth TrACE, gan sicrhau eu bod yn ystyried pob agwedd ar eu hamgylchedd ffisegol a chymdeithasol a’r effaith y gall ei chael ar staff, defnyddwyr gwasanaeth ac unrhyw un arall sy’n defnyddio’r sefydliad.
Croesawodd y cyfarfod y siaradwyr gwadd, Jacqui Couch a Kate Hammond o Dîm Dylunio Canolfan Ganser Felindre. Clywodd y grŵp am sut y bydd y dull cydweithredol, sy’n canolbwyntio ar y person, o ddylunio Canolfan Ganser newydd Felindre yn arwain at adeilad sy’n rhoi profiadau staff a chleifion yn ganolog i’r dyluniad. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd mannau ffisegol i gleifion sy’n defnyddio’r ganolfan a’r staff ymroddedig sy’n gweithio yno, o’r ardal gyfagos i gyfleusterau a gwasanaethau. Mae adeiladu’r ganolfan newydd ar y gweill a disgwylir iddi agor yn 2027.
Rhoddodd Bryony Parry, o’r Tîm Atal Trais yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddatblygu Naratif Cyhoeddus ar gyfer Cymru sy’n Ystyriol o Drawma. Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ymgysylltu â phobl mewn gwasanaethau a chymunedau ledled Cymru i gynorthwyo datblygu naratif a fydd yn cryfhau gweithredu ar y cyd ac yn ysbrydoli cydweithio ar draws cymunedau, sectorau a gwasanaethau.
Mae’r Grŵp Llywio Gweithredu wedi ymrwymo i gynnig sesiwn sbotolau i gyd-gadeiryddion ein gweithgor yn ein cyfarfodydd. Rhoddodd Siobhan Parry a Tom Hoare, cyd-gadeiryddion y gweithgor Plant a Phobl Ifanc, gyflwyniad ar gynnydd a chynlluniau prosiect cyfredol.
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgorau a sut y gallech gymryd rhan, ewch i: https://traumaframeworkcymru.com/cy/ymagwedd/