Plant a Phobl Ifanc

Gweithio gyda’n gilydd i greu Cymru sy'n Ystyriol o Drawma ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc.

Mae Cymru sy’n Ystyriol o Drawma yn darparu fframwaith cymdeithas gyfan i gynorthwyo ymagwedd gydlynol, gyson at ddatblygu a gweithredu ymarfer sy’n ystyriol o drawma ledled Cymru, gan ddarparu’r cymorth gorau posibl i’r rheini sydd ei angen fwyaf Mae angen ymgysylltu â phlant, pobl ifanc ac oedolion cefnogol o’u cwmpas ynghylch yr hyn y mae’r Fframwaith yn ei olygu iddynt hwy yn eu cymunedau ac i’r gwasanaethau y maent yn rhyngweithio â hwy, a chydgynhyrchu’r camau nesaf o ran ei wireddu.

Bydd y grŵp ffrwd gwaith plant a phobl ifanc yn cydweithio â phlant a phobl ifanc, ac arweinwyr/cefnogwyr sefydliadau allweddol, i ddod â’r Fframwaith yn fyw, deall yr hyn y mae’n ei olygu mewn gwahanol gyd-destunau ac i ymgorffori arfer ystyriol o drawma ar draws ein holl ymyriadau a’n rhyngweithio â phlant a phobl ifanc a’u teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Ffocws allweddol y grŵp fydd cydgynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc, i ystyried sut y gallant chwarae rhan yn y gwaith o weithredu’r fframwaith a hefyd i ystyried sut y gall gweithwyr proffesiynol ac oedolion cefnogol gydweithio i symud o ddeall y fframwaith i ofod creu a gweithredu.

Bydd babanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd wrth galon y gwaith hwn, gan sicrhau bod y gweithgor hwn yn cysylltu â’r ffrydiau gwaith eraill i gadw’r genhedlaeth iau mewn cof drwy bob agwedd ar yr uchelgeisiau ar gyfer gweithredu’r Fframwaith.

Cwrdd â’r Tîm

Dr Tom Hoare

Cyd-gadeiryddion Y Gweithgor

Helo fy enw i yw Tom ac rwy’n seicolegydd clinigol. Rwy’n gweithio ar brosiect y GIG sy’n ceisio gwella llesiant pobl y mae trawma ac adfyd yn effeithio arnynt (Straen Trawmatig Cymru, neu TSW), ac rwy’n gyffrous i fod yn cyd-gadeirio’r ffriwyd waith plant a phobl ifanc ar gyfer gweithredu’r Fframwaith Seiliedig ar Drawma ledled Cymru gyda Siobhan. Yn TSW rwy’n arwain ar waith plant a phobl ifanc ac ar y ffrwd waith ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Cefais fy ngeni yn Abertawe ac rwyf dal i fyw yma gyda fy mhartner a dau o blant ifanc. Hyfforddais fel seicolegydd yn Llundain a Chaerdydd. Rwyf wedi gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion cefnogol yn y GIG, sefydliadau anllywodraethol a’r awdurdodau lleol. Treuliais nifer o flynyddoedd yn gweithio yn Affrica a’r Dwyrain Canol gydag elusen o’r enw Medecins Sans Frontieres (MSF)/Doctors Without Borders, er mwyn deall anghenion iechyd meddwl a llesiant a sefydlu cefnogaeth gymunedol mewn ardaloedd o argyfyngau dyngarol.

Y tu allan i’r gwaith rwy’n hoffi syrffio a nofio yn y môr, a gwylio rygbi a phêl-droed. Rwy’n dysgu Ffrangeg ac yn chwarae’r piano (yn wael!).

Siobhan Parry

Cyd-gadeiryddion Y Gweithgor

Helo fy enw i yw Siobhan ac rwy’n ymuno â Tom fel Cyd-gadeirydd y Ffrwd Waith Plant a Phobl Ifanc.  Rwyf wedi gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ers 22 mlynedd, gan ddechrau fel gweithiwr chwarae ac ieuenctid pan oeddwn yn dal yn berson ifanc fy hun! Rwyf wastad wedi bod yn angerddol dros aros yn chwilfrydig a gweld y byd trwy lygaid plant a phobl ifanc – gan sicrhau ein bod yn cymryd gofal mawr o genedlaethau’r dyfodol! Rwy’n gweithio i Platfform, elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol sy’n angerddol am newid system a chyfiawnder cymdeithasol. Fy rôl yw Dirprwy Gyfarwyddwr Plant, Pobl Ifanc, Teuluoedd a Chymuned. Yn y rôl hon rwy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol gwaith Platfform ar gyfer plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau a sicrhau bod ein holl wasanaethau yn cyd-fynd â’n gwerthoedd a’n huchelgeisiau – gan ddarparu’r cymorth gorau posibl.

Mae gen i radd mewn Seicoleg a Gradd Meistr mewn Seicoleg Glinigol o Brifysgol Abertawe. Rwyf yn Gynghorydd Trais Domestig Annibynnol cymwysedig a threuliais naw mlynedd yn gweithio i Gymorth i Fenywod mewn rolau amrywiol. Ymunais â Platfform chwe blynedd yn ôl i barhau â’m diddordeb mewn hyrwyddo llesiant i bobl ifanc a chreu gwasanaethau newydd. Mae fy niddordebau yn ymwneud ag effaith trawma, sut rydym yn ymateb i hyn fel cymdeithas a’r gobaith o wella. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Tom a phawb sy’n ymuno â ffrwd waith Plant a Phobl Ifanc a gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn ganolog i’r gwaith hwn.

Bydd aelodaeth yn cael ei rhannu yn fuan.

Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu yn fuan.

Working with Platfform