Cafodd ymgyrch flaenllaw Hyb ACE Cymru — #AmseriFodynGaredig — ei lansio yn 2019 gyda’r nod o hyrwyddo caredigrwydd a datblygu “Cymru sy’n ymwybodol o ACE” trwy annog dealltwriaeth a thrugaredd tuag at bobl sydd wedi eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).
Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, mae Hyb ACE Cymru bellach yn cyd-arwain gwaith gyda phobl a sefydliadau ledled Cymru i greu cenedl sy’n ystyriol o drawma. Er mwyn helpu i gyflawni’r nod yma o Gymru sy’n ystyriol o drawma, mae’r rhan yma o’r ymgyrch yn adeiladu ar lwyddiant blynyddoedd blaenorol trwy greu hysbyseb deledu llawn emosiwn sy’n annog creu cymdeithas fwy caredig fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ffynnu.