Ymyriadau arbenigol: Cymwyseddau

Bydd y cymwyseddau hyn yn eich helpu i nodi cyfuniad o sgiliau, gwybodaeth, ymddygiadau a rhinweddau a fydd yn cefnogi ymarfer effeithiol ar y lefel hon.

Bydd pobl sy’n darparu ymyriadau arbenigol yn:

  • Meddu ar y gallu i gynnal asesiadau cynhwysfawr wedi’u cydgynhyrchu o anghenion a gwybodaeth am ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n cyd-fynd â’r rhain. Byddant yn gallu cyflenwi ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn ffordd dosturiol, gydweithredol ac sy’n canolbwyntio ar y person
  • Deall penderfynyddion seicogymdeithasol iechyd meddwl ac iechyd seicolegol a rôl ganolog anghydraddoldeb cymdeithasol yn natblygiad anawsterau iechyd meddwl
  • Cefnogi unigolion i werthuso eu canlyniadau eu hunain gan ddefnyddio mesurau llesiant, canlyniadau sy’n seiliedig ar nodau, a mesurau boddhad
  • Gallu datblygu fformiwleiddio seicolegol i egluro trallod cyfredol ac anawsterau gweithredol sy’n tynnu ar drawma a theori seicolegol ac sy’n ystyried ffactorau penodol i drawma, hyd oes, niwrobioleg, iechyd corfforol ynghyd â ffactorau datblygiadol, rhywedd-benodol a diwylliannol.
  • Cefnogi hyfforddiant, goruchwylio ac ymgynghori ar lefel gymunedol
  • Gallu cefnogi’r rhai heb gefndir ym maes iechyd neu mewn maes clinigol i ddatblygu dulliau sy’n ystyriol o drawma.