Trawma-well: Cymwyseddau

Bydd y cymwyseddau hyn yn eich helpu i nodi cyfuniad o sgiliau, gwybodaeth, ymddygiadau a rhinweddau a fydd yn cefnogi ymarfer effeithiol ar y lefel hon.

Bydd pobl sy’n gweithio ar lefel manwl o ran trawma yn:

  • Gweithio i arfer dull cyson gydag unigolion neu deuluoedd ar draws yr ystod o sefydliadau y maen nhw’n eu defnyddio, er mwyn sicrhau nad oes drws anghywir i gael mynediad at gefnogaeth ddefnyddiol. Byddan nhw’n gweld pan fydd unigolyn neu deulu wedi’u llethu gan ymatebion sy’n gysylltiedig â thrawma
  • Deall pryd y gallai fod yn ddefnyddiol gofyn am brofiadau unigolyn a theimlo’n hyderus ynghylch sut i ofyn am brofiadau trawmatig neu am adfyd, a sut i ymateb yn ymarferol i hyn.
  • Cefnogi pobl ar y cyd i ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau sylfaenu a thechnegau eraill sydd wedi’u teilwra i unigolion i’w galluogi i ddychwelyd i’w ffenestr goddefgarwch
  • Ystyried ar y cyd y ffyrdd y gallai strategaethau ymdopi beidio â bod o gymorth mwyach/eu bod wedi mynd yn gwbl ddi-fudd
  • Cefnogi pobl i ddatblygu dull wedi’i deilwra i unigolion er mwyn iddynt ddeall eu cryfderau a’u hymatebion sy’n gysylltiedig â thrawma, a strategaethau ymdopi.