Trawma-fedrus: Cymwyseddau

Bydd y cymwyseddau hyn yn eich helpu i nodi cyfuniad o sgiliau, gwybodaeth, ymddygiadau a rhinweddau a fydd yn cefnogi ymarfer effeithiol ar y lefel hon.

Bydd pobl sy’n gweithio ar lefel medrus o ran trawma yn:

  • Gweithio mewn ffordd sy’n deall pwysigrwydd sylfaenol perthnasoedd ac yn rhoi ymdeimlad o ddiogelwch ac ymddiriedaeth, gan ryngweithio â phobl mewn ffordd sy’n atal ail-drawmateiddio
  • Darparu cefnogaeth a gofal tosturiol sy’n canolbwyntio ar y person ac wedi’i deilwra i’r unigolyn mewn iaith y mae pobl yn ei deall. Bydd yn helpu’r unigolyn neu’r teulu i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch y gofal a’r gefnogaeth a gynigir iddynt a theimlo’n ddiogel i wneud hynny.
  • Gallu cydnabod yr effaith y mae profiadau bywyd a ffactorau cymdeithasol yn ei chael ar bobl
  • Deall pwysigrwydd amgylcheddau a sefydliadau sy’n ystyriol o drawma
  • Blaenoriaethu hunanofal a chefnogi staff i weithio’n ddiogel ac o fewn ffiniau personol a phroffesiynol priodol.