Hyfforddiant Sefydliad Gwybodus am Drawma Cymru Gyfan

  • Arwynebedd:Cymru
  • Lefel Ymarfer:Trawma-ymwybodol
  • Prîs:Am Ddim
  • Fath o Hyfforddiant:Ar-lein

Mae’r hyfforddiant wedi’i ddatblygu’n benodol mewn partneriaeth â ac ar gyfer sefydliadau cymunedol llai sy’n gwneud cyfraniad sylweddol at gefnogi pobl yng Nghymru; fodd bynnag, gall unrhyw sefydliad sy’n dymuno cychwyn ar y daith i ddod yn ystyriol o drawma ei ddefnyddio.

P’un a ydych yn cefnogi plant, pobl ifanc neu oedolion, ni fydd ymagwedd sy’n ystyriol o drawma yn gwneud unrhyw niwed a gall hybu iachâd ac adferiad i bawb. Mae’r hyfforddiant yn ymgorffori’r wybodaeth y gall pawb brofi trawma ac mae’r dull yn cynnwys sut mae sefydliadau’n cefnogi ac yn gwerthfawrogi eu staff yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth.

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys fideos a gweithlyfr ac ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn argymell gwylio’r fideos mewn trefn, gan fod pob pennod yn adeiladu eich gwybodaeth i gefnogi cynnydd. Bydd gwylio’r fideo yn gyntaf ac yna defnyddio’r adrannau perthnasol yn y Gweithlyfr yn hwyluso eich myfyrio a’ch dysgu. Gall yr hyfforddiant ymddangos fel adnodd mawr ac ychydig yn frawychus, ond mae wedi’i rannu’n Benodau byr, felly cymerwch eich amser i archwilio pob adran.

Nodau’r Hyfforddiant:

  • Deall adfyd a thrawma yn well a’i effaith ar draws eich bywyd
  • Deall elfennau allweddol dull sy’n ystyriol o drawma
  • Cydnabod arwyddocâd diwylliant a chredoau sefydliadol
  • Deall egwyddorion allweddol dod yn sefydliad sy’n ystyriol o drawma
  • Deall sut i roi dulliau ac egwyddorion ystyriol o drawma ar waith yn eich sefydliad
Gwybodaeth Gyswllt Mynediad i'r cwrs

Other providers

Gweld popeth

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) ac Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma yng Cymru: Cwrs e-Ddysgu

  • Arwynebedd:Cymru
  • Lefel Ymarfer:Trawma-ymwybodol
  • Prîs:Am Ddim
  • Fath o Hyfforddiant:Ar-lein

Croeso i gwrs e-Ddysgu Cyflwyniad i Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) ac Ymarfer sy'n Ystyriol o Drawma gan Hyb ACE Cymru.

Gan gyfeirio at Fframwaith Cenedlaethol Cymru sy'n Seiliedig ar Drawma, ystyrir bod y cwrs ar-lein hwn ar lefel "ymwybodol o drawma".

Gwybodaeth Gyswllt