Ymyriadau arbenigol

Gall ymyriadau arbenigol fod yn ymyriadau ffurfiol personol wedi’u cyd-gynhyrchu a’u cynnig mewn amryw leoliadau, neu gallant fod yn fewnbynnau arbenigol i gefnogi sefydliadau a systemau i fod yn ystyriol o drawma.

 

Gweithio ar lefel ymyriad arbenigol

Mae Francine yn gwnselydd sy’n cefnogi teuluoedd sydd wedi dod i Gymru i fod yn ddiogel rhag rhyfel neu drais yn eu gwlad gartref. Mae Francine yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd ac mae’n defnyddio gwahanol fathau o therapi. Weithiau mae hi’n eu helpu i ymdopi â digwyddiadau difrifol, adfyd a thrawma. Gwyliwch yr animeiddiad byr hwn i weld sut mae Francine yn defnyddio ymyriadau arbenigol yn ei rôl.

Gweld yr Animeiddiad

Enghreifftiau Cymwyseddau

Bydd y cymwyseddau hyn yn eich helpu i nodi cyfuniad o sgiliau, gwybodaeth, ymddygiadau a rhinweddau a fydd yn cefnogi ymarfer effeithiol ar y lefel hon.

Gweld yr Enghreifftiau

Hyfforddiant ar lefel ymyriad arbenigol

Mae hyfforddiant ar lefel ymyriad arbenigol wedi’i anelu at bobl sydd â chymwysterau proffesiynol cydnabyddedig i gefnogi eu rôl. Darperir hyfforddiant ar y lefel hon gan sefydliadau cofrestredig ac achrededig sy’n dilyn canllawiau ymarfer y proffesiwn hwnnw.

Os ydych chi’n ystyried comisiynu hyfforddiant neu ddilyn hyfforddiant sy’n nodi’n benodol ei fod ar lefel ymyriadau arbenigol neu y credwch ei fod ar y lefel honno, dylech ymgynghori â’r sefydliadau ymarfer perthnasol ar gyfer eich proffesiwn.

Gweld yr Adnoddau