Mae’r lefel medrus o ran trawma wedi’i hanelu at bawb sy’n darparu gofal neu gefnogaeth i bobl a allai fod wedi profi trawma, p’un a yw’r trawma yn hysbys ai peidio. Bydd hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o sefydliadau yng Nghymru a llawer sy’n gweithio yn y gymuned a gyda’r gymuned.
Mae Josh a Clare yn rhedeg cegin gymunedol a lleoliad galw heibio sy’n rhan o elusen genedlaethol. Maen nhw’n gwybod bod rhai plant ac oedolion sy’n dod atyn nhw am gymorth wedi profi trawma. Gwyliwch yr animeiddiad byr hwn i weld sut mae Josh a Claire yn cyflwyno dull medrus o ran trawma i’w rôl.
Gweld yr AnimeiddiadBydd y cymwyseddau hyn yn eich helpu i nodi cyfuniad o sgiliau, gwybodaeth, ymddygiadau a rhinweddau a fydd yn cefnogi ymarfer effeithiol ar y lefel hon.
Gweld yr EnghreifftiauMae hyfforddiant ar lefel medrus o ran trawma wedi’i anelu at y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol yng Nghymru.
Os ydych chi’n ystyried comisiynu hyfforddiant neu ddilyn hyfforddiant sy’n nodi’n benodol ei fod ar lefel medrus o ran trawma neu y credwch ei fod ar y lefel honno, dylech ddisgwyl iddo gyfeirio at egwyddorion a lefelau ymarfer Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma. Dylai’r hyfforddiant ar lefel medrus o ran trawma adeiladu ar lefel ymwybodol o drawma a chynnwys technegau mwy ymarferol i adnabod ymddygiadau a allai fod yn ganlyniad i drawma sylfaenol.
Gweld yr Adnoddau