Mesur ein cynnydd a gwerthuso ein llwyddiant wrth ddod yn genedl sy’n ystyriol o drawma.
Bydd y gweithgor hwn yn adeiladu i mewn i’r gwaith sy’n datblygu o amgylch ein map ffordd i roi’r Fframwaith sy’n ystyriol o drawma ar waith. Byddwn yn parhau i gyd-greu mecanwaith cynhwysol, sy’n glynu at werthoedd ac ethos y Fframwaith ei hun, i sicrhau ein bod yn gallu dangos tystiolaeth o’r newid cadarnhaol yr ydym yn ei roi ar waith a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i bobl, sefydliadau, systemau a chymdeithas ledled Cymru. Rydym yn ymrwymo i gysylltu gyda a chynnwys pobl sy’n profi gwasanaethau yn ogystal â’r rhai sy’n eu darparu, drwy ymarfer myfyriol ac wedi’i ategu gan 5 egwyddor y Fframwaith.
Dr Annette Leponis (BSc (Anrh), PhD, DClinPsy) yw Dirprwy Gyfarwyddwr Straen Trawmatig Cymru (TSW) ac mae hi’n Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol.
Dechreuodd Annette ei gyrfa fel tiwtor prifysgol tra’n cwblhau ei PhD. Hyfforddodd wedyn fel Seicolegydd Clinigol ac ers hynny mae wedi gweithio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl oedolion am y rhan fwyaf o’i gyrfa, gan ddarparu a datblygu gwasanaethau seicoleg o fewn timau iechyd meddwl cymunedol. Mae ei gwaith mwy diweddar wedi cynnwys dylunio, datblygu a gweithredu gwasanaeth seicoleg i gefnogi staff y GIG.
Ers blynyddoedd lawer, mae Annette wedi gweithio gyda phobl sydd wedi profi trawma a arweiniodd at ddatblygu diddordeb arbennig i weithio gyda’r rhai sydd wedi profi trawma difrifol a chymhleth. Mae Annette yn Oruchwyliwr Ymgynghorol EMDR (Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad Llygaid) a Achredwyd yn Ewrop, yn Ymarferydd Therapi Dadansoddol Gwybyddol achrededig (CAT), ac yn Ymarferydd Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT). Mae ei gwerthoedd craidd, sef tosturi a charedigrwydd yn adleisio gwerthoedd Straen Trawmatig Cymru (TSW) a Fframwaith Sy’n Ystyriol o Drawma Cymru.
Jo yw’r Cyfarwyddwr Rhaglen Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE), Cyfiawnder Troseddol ac Atal Trais yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn gyn-Uwch Was Sifil yn llywodraeth y DU, bu Jo yn gweithio i’r Swyddfa Gartref am ugain mlynedd gyda chyfrifoldebau mewn Troseddau Treisgar, Trais yn Erbyn Menywod, Mewnfudo a saith mlynedd fel pennaeth Cymru a Datganoli, cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn 2018 daeth Jo yn Gyfarwyddwr Hyb ACE Cymru ac yna cymerodd yr awenau ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Rhaglen Gweithredu’n Gynnar gyda’n Gilydd yr Heddlu a’i Bartneriaid, gan drawsnewid systemau i atal a lliniaru ACEs a hyrwyddo ymarfer sy’n ystyriol o drawma ac ACE (TraCE) yng Nghymru.
Mae ei rôl bresennol yn dod â’r holl gyfrifoldebau hyn at ei gilydd i ddatblygu dull gweithredu wedi’i lywio gan TrACE ar draws gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a chymdeithas drwy roi Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma ar waith. Cwblhaodd Jo ddoethuriaeth yn 2023 ym Mhrifysgol Aberystwyth ar reolaeth orfodol mewn gwrthdaro ac mae’n Athro Gwadd ym Mhrifysgol Wrecsam.
Grŵp bach o arweinwyr ag arbenigedd penodol ar ddatblygu model Damcaniaeth Newid.
Mae cynlluniau ar droed i ehangu’r aelodaeth i hwyluso datblygiad a gweithrediad y Ddamcaniaeth Newid ymhellach er mwyn cefnogi’r gwaith o gyd-gynhyrchu'r Fframwaith monitro a gwerthuso.
Cynhaliwyd sesiynau sbotolau yng nghyfarfod y Grŵp Llywio Gweithredu Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2024 a mis Mai 2025; cafwyd cyflwyniad ar gynnydd y grŵp hyd hynny.