Cyfarfodydd ISG

Ionawr 2026

Siaradwr Gwadd:

April Heade
Opera Cenedlaethol Cymru

Bryony Parry
Tîm Atal Trais

Chwyddwydr Gweithgorau:

Monitro a Gwerthuso
Cathy Madge, Tîm Economeg Llesiant a Gwerth (WEAVE)

Ymwelodd Grŵp Llywio Gweithredu Cymru sy’n Ystyriol o Drawma (ISG) â Noddfa Seibiant yng Nghaerdydd heddiw.

Noddfa Seibiant yw dewis anghlinigol, yn y gymuned ac wedi’i lywio gan drawma amgen cyntaf Caerdydd a’r Fro i’r Uned Achosion Brys. Mae’r cyfleuster, a redir gan Platfform, ac sy’n gweithredu mewn partneriaeth â’r cyllidwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn cynnig lle diogel arall i unrhyw un sy’n profi argyfwng neu sydd angen cymorth iechyd meddwl ledled Caerdydd a’r Fro. Diolch yn fawr iawn i gydweithwyr yn Noddfa Seibiant am hwyluso ein hymweliad a’n croesawu.

Cynhaliodd Grŵp Llywio Gweithredu Cymru sy’n Ystyriol o Drawma (ISG) ei gyfarfod ym mis Ionawr heddiw yn Neuadd Aberdâr, Prifysgol Caerdydd.

Croesawodd y cyfarfod y siaradwr gwadd, April Heade, o Opera Cenedlaethol Cymru i drafod defnyddio canu fel therapi. Clywodd y grŵp am sut mae ei raglen llesiant yn fenter sy’n defnyddio ymarferion canu ac anadlu i leddfu poen cronig. Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus yn ei chyfnod peilot. Mae’r cyfranogwyr yn nodi gwelliannau sylweddol o ran rheoli poen, iechyd meddwl ac ansawdd bywyd cyffredinol. Cefnogir y fenter gan Gyngor Celfyddydau Cymru a GIG Cymru, a’i nod yw darparu profiadau trawsnewidiol trwy gerddoriaeth a chân. Pwysleisiodd y drafodaeth bwysigrwydd y rhaglen, a sut mae’n dyst i bŵer cerddoriaeth wrth reoli poen ac yn cynnig dewis arall cost-effeithiol yn lle therapïau traddodiadol.

Rhoddodd Bryony Parry, arweinydd datblygu’r digwyddiad naratif cyhoeddus ar gyfer tîm Cymru sy’n Ystyriol o Drawma, ddiweddiad ar y cynlluniau ar gyfer y digwyddiad lansio ar 12 Chwefror, a fydd yn cynnwys y trydydd ymgyrch #AmserIFodYnGaredig.

Mae’r Grŵp Llywio Gweithredu wedi ymrwymo i gynnig sesiwn sbotolau i gyd-gadeiryddion ein gweithgor yn ein cyfarfodydd. Gwahoddodd Dr Jo Hopkins a Dr Annette Leponis, cyd-gadeiryddion y gweithgor Monitro a Gwerthuso, Cathy Madge, tîm Economeg Llesiant a Gwerth (WEAVE), Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflwyno ar Sut y bydd cymryd Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi yn llywio effaith. Mae tîm WEAVE yn canolbwyntio ar economeg iechyd, effaith llesiant, gwerth cymdeithasol, iechyd y cyhoedd yn seiliedig ar werth, yr economi llesiant a’r economi sylfaenol.

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgorau a sut y gallech gymryd rhan, ewch i: https://traumaframeworkcymru.com/cy/ymagwedd/