Mae pecyn hyfforddi Sefydliad sy’n Ystyriol o Drawma wedi’i ddatblygu gan Barnardo’s Cymru a Caffeine Creative gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydliadau cymunedol ar eu taith tuag at ddod yn ystyriol o drawma. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys Fframwaith Cymru sy’n Seiliedig ar Drawma: diffiniadau, egwyddorion, a model ymarfer.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys fideos byr a llyfr gwaith a bydd ar gael fel adnodd ar wefan ACE Hub Cymru .
P’un a ydych yn cefnogi plant, pobl ifanc neu oedolion, ni fydd ymagwedd sy’n seiliedig ar drawma yn gwneud unrhyw niwed a gall hybu iachâd ac adferiad i bawb.
Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i ddatblygu’n benodol gan ac ar gyfer sefydliadau cymunedol llai sy’n gwneud cyfraniad sylweddol at gefnogi pobl yng Nghymru.
Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i ddatblygu gan Barnado’s sydd hefyd yn gyfrifol am y fersiwn Gymraeg a fydd yn cael ei ychwanegu at y dudalen hon cyn gynted ag y bydd ar gael.
Os hoffech gyrchu’r fersiwn Saesneg, gallwch wneud hynny yma