Trawma-ymwybodol: Cymwyseddau

Bydd y cymwyseddau hyn yn eich helpu i nodi cyfuniad o sgiliau, gwybodaeth, ymddygiadau a rhinweddau a fydd yn cefnogi ymarfer effeithiol ar y lefel hon.

Bydd pobl sy’n gweithio ar lefel ymwybodol o drawma yn:

  • Deall y bydd llawer o bobl wedi cael eu heffeithio gan adfyd a thrawma yn eu bywydau
  • Deall pwysigrwydd tosturi, caredigrwydd a chefnogaeth wrth hwyluso perthnasoedd o fewn y teulu, y gymuned a thu hwnt
  • Gallu adnabod a chefnogi pobl drallodus mewn modd empathig
  • Gallu meithrin perthnasoedd cefnogol gyda theuluoedd/rhwydweithiau cymorth eraill a chymunedau
  • Cydnabod y rôl y mae pob unigolyn, sefydliad, a’r gymdeithas yn ehangach yn ei chwarae wrth herio tlodi a gwahaniaethu
  • Cydnabod y rôl y mae pob unigolyn, sefydliad a’r gymdeithas yn ehangach yn ei chwarae wrth atal a lliniaru effeithiau negyddol adfyd a thrawma, a rhag dod i gysylltiad pellach â nhw
  • Deall bod dod i gysylltiad â thrawma yn gyffredin ond nid yn gyffredinol a bod modd ei oresgyn.