Mae TIPSS yn darparu sgiliau ymarferol i gefnogi pobl a sefydliadau sy'n gweithio ar lefelau ymarfer trawma-fedrus a trawma-well o Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma. Cynlluniwyd yr hyfforddiant i feithrin hyder a gallu ymhlith staff rheng flaen sy'n cefnogi unigolion sydd wedi profi trawma, neu sy'n profi trawma ar hyn o bryd.
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg cychwynnol o Ymarfer, Sgiliau a Strategaethau sy’n Ystyriol o Drawma ar gyfer Plant a Phobl Ifanc TIPSS-CYP, a weithredwyd ar draws saith safle peilot i gefnogi ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Er nad yw'n werthusiad llawn, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gynnydd cynnar addawol ac yn cynnig cipolwg ar lunio model gweithredu a llywodraethu yn y dyfodol.