Cyfarfodydd ISG

Medi 2025

Siaradwr Gwadd:

Katie Cole
Berfformiad a Gwella’r GIG

Jen Daffin
Platfform

Chwyddwydr Gweithgorau:

Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Oliver Townsend and Lauren Hopkins

Cyfarfu’r Grŵp Llywio Gweithredu yng Nghaerdydd y prynhawn yma ac fel rhan o’u rhaglen ymweld â safleoedd ymwelasant â Choleg Adferiad a Llesiant Caerdydd a’r Fro, a letyir gan wasanaethau Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae’r coleg yn darparu cyrsiau addysgol am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a llesiant sy’n cael eu cyd-gynhyrchu a’u cyd-gyflwyno gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a hyfforddwyr cymheiriaid sydd â phrofiad bywyd o heriau iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Mwynhaodd aelodau’r Grŵp Llywio Gweithredu glywed gan Susie Boxall, Arweinydd Strategol y Tîm Profiad Bywyd ynghyd â myfyriwr sydd wedi defnyddio gwasanaeth y Coleg. Trafodasant sut mae dull sy’n ystyriol o drawma yn y Coleg yn edrych, sut mae’r gwaith yn cyd-fynd â Fframwaith Cymru sy’n ystyriol o drawma, a thrafod unrhyw gyfleoedd i gefnogi ymhellach y cynlluniau presennol a’r cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer Caerdydd a’r ddarpariaeth Genedlaethol.

Ffocws prif gyfarfod y Grŵp Llywio Gweithredu yn y prynhawn oedd trafodaeth ar y cyfleoedd i gefnogi a chyd-fynd yn agosach â Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru, sydd ag ymrwymiad i weithredu Fframwaith Cymru sy’n ystyriol o Drawma yn ei Chynllun Cyflenwi ar gyfer 2025-28. Dan gadeiryddiaeth arbenigol Ewan Hilton, Prif Weithredwr Platfform, clywodd y Grŵp Llywio Gwybodaeth gan Stephen Clarke a Katie Cole o Berfformiad a Gwella’r GIG, a  Maniffesto Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru 2026  wrth i ni baratoi ar gyfer y newidiadau gwleidyddol sydd i ddod. I ddarllen rhagor am y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant ewch i.

Mae’r Grŵp Llywio Gweithredu wedi ymrwymo i gynnig sesiwn sbotolau i gyd-gadeiryddion ein gweithgorau yn ein cyfarfodydd. Cyflwynodd y gweithgor Cyfathrebu ac Ymgysylltu am yr eildro heddiw. Rhoddodd y cyd-gadeiryddion, Oliver Townsend a Lauren Hopkins, gyflwyniad ar gynnydd a chynlluniau prosiect cyfredol, gan gynnwys diweddariad ar eu prosiect i edrych ar sut mae iaith sy’n trafod trawma yn wahanol, ac yn esblygu ar draws gwasanaethau yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgorau a sut y gallech gymryd rhan, ewch i Ymagwedd.

Gweld y Chwyddwydr Gweithgorau