Gorffennaf 2025
Siaradwr Gwadd:
Selima Bahadur
EYST
Natalie Blakeborough
ACE Hub Wales
Helen Stacey
New Pathways
Cynhaliodd y Grŵp Llywio Gweithredu gyfarfod yn Abertawe heddiw. Cawsant hefyd gyfle i ymweld â swyddfeydd y Tam Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST). Mae EYST yn gweithio gyda phobl ledled Cymru i’w helpu i gyrraedd eu potensial llawn drwy raglenni holistaidd, wedi’u targedu, sy’n sensitif i ddiwylliant, ac sy’n rhoi cyfle i bawb gyfrannu, cymryd rhan, a ffynnu. Mwynhaodd aelodau’r Grŵp Llywio Gweithredu glywed rhagor am y prosiectau, gweld y cyfleusterau yn Abertawe a chlywed gan y tîm am bwysigrwydd eu gwaith. Clywsant hefyd yn uniongyrchol am gynnydd prosiect, mewn cydweithrediad â Hyb ACE Cymru, i ddeall profiad o drawma hiliol yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am EYST, cliciwch yma.
Dechreuodd y cyfarfod ar ôl cinio yn Neuadd Brangwyn. Gwahoddodd y Grŵp Llywio Gweithredu Selima Bahadur, Arweinydd Prosiect Ymgysylltu Cymru Gyfan o EYST, a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am eu prosiect ar drawma hiliol sef Do You See My Trauma? Rhoddodd Selima amlinelliad o’r cyfweliadau a’r sgyrsiau a gynhaliwyd hyd yn hyn a rhannodd rhai o’r canfyddiadau cychwynnol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr haf. Bydd yn llywio’r gwaith o adolygu ac ailddatblygu adnoddau presennol yn uniongyrchol i adlewyrchu profiadau trawma hiliol i gefnogi Cymru wrth-hiliol. Bydd hefyd yn cyd-ddatblygu cymorth pellach i sefydliadau sy’n gweithredu’r pecyn cymorth Sefydliadau sy’n Ystyriol o Drawma ac ACEs.
Ein hail siaradwr gwadd oedd Helen Stacey, Pennaeth Gwasanaethau Cwnsela a Therapiwtig yn New Pathways. Bu’n rhannu manylion ar eu gwaith ar ddull sy’n seiliedig ar drawma, ac yn benodol ehangder yr hyfforddiant maen nhw’n ei ddarparu ar sawl lefel ymarfer o’r Fframwaith, ar gyfer sefydliadau a phobl sy’n cefnogi goroeswyr trais rhywiol. New Pathways yw’r darparwr cymorth trais rhywiol mwyaf yng Nghymru. Mae gan y sefydliad elusennol 30 mlynedd o brofiad o ddarparu cymorth therapiwtig arbenigol i oedolion a phlant. I gael rhagor o wybodaeth am New Pathways a’r gwasanaethau mae’r sefydliad yn eu cynnig, cliciwch yma.
Rhoddodd Natalie Blakeborough, dirprwy arweinydd Hyb ACE Cymru, yr wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp ar ganfyddiadau’r Gwerthusiad o Sefydliadau sy’n Ystyriol o TrACE a gynhaliwyd gan MEL Research. Mae’r gwerthusiad annibynnol yn edrych ar effaith gweithredu Pecyn Cymorth Sefydliadau sy’n Ystyriol o TrACE, a werthuswyd yn annibynnol, mewn pum sefydliad o amrywiaeth o sectorau ledled Cymru. Mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys cydnabyddiaeth gadarnhaol o gymorth yr Hwb ACE yn y broses weithredu, argymhellion ar gyfer meysydd ffocws o amgylch parodrwydd ar gyfer newid ac offer ymarferol i gefnogi ei gynnal a sgîl-effaith canlyniadau cadarnhaol sy’n ymestyn y tu hwnt i’r sefydliad ei hun. Mae’r adroddiad cryno, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, yn cynnwys astudiaethau achos i arddangos effaith gadarnhaol y gwaith yn y pum sefydliad ar y gweithlu ei hun a’r bobl sy’n cael mynediad at y gwasanaethau y mae’r sefydliadau’n eu darparu.
I weld a lawrlwytho’r Adroddiad Cryno, cliciwch yma.
Bydd y gwaith yn llywio blaenoriaeth y gweithgor monitro a gwerthuso yn uniongyrchol i ddatblygu dull cadarn i gefnogi gweithredu a mesur effaith.