Gwybodaeth a Sgiliau ar Waith

Cysylltu pobl, lleoedd a sefydliadau i ddatblygu dull system gyfan o ymdrin â gwybodaeth a sgiliau sy'n ystyriol o drawma i ymarfer a newid diwylliant.

Nid yw cefnogi pobl, gwasanaethau a sefydliadau i ddod yn fwy ystyriol o drawma yn ddull un ateb i bawb. Gall y ffordd y mae un gwasanaeth yn dod yn ystyriol o drawma fod yn wahanol iawn i wasanaeth arall ac yn dibynnu ar sawl ffactor. Mae enghreifftiau o’r ffactorau hyn yn cynnwys busnes craidd/ffocws y gwasanaeth, cyd-destun cymunedol, adnoddau, cymysgedd sgiliau unigol, blaenoriaethau gwasanaeth a lleol, strwythurau rheoli ac arwain ac ati.

Felly mae angen canolbwyntio cymaint ar y ‘sut’ a’r ‘beth’ er mwyn cefnogi gwasanaethau ar eu taith sy’n ystyriol o drawma. Mae hyn yn cynnwys archwilio sut y gall cyd-destunau gwasanaeth, strategaeth ac arweinyddiaeth gefnogi gwreiddio gwybodaeth a sgiliau sy’n ystyriol o drawma i greu newid ymddygiadol/ymarferol a diwylliannol. Mae un o egwyddorion craidd fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma yn amlygu’r angen i ganolbwyntio ar gryfderau a gwydnwch. Felly, maes allweddol i’w ystyried yw sut y gall dulliau sy’n ystyriol o drawma gysoni â gwybodaeth, sgiliau a hyfforddiant presennol staff a gwasanaethau. Er enghraifft, mae rhai aelodau staff wedi cael hyfforddiant mewn dulliau arwain tosturiol, felly byddai’n bwysig adlewyrchu sut mae’r sgiliau arwain presennol hyn yn cyd-fynd â dull sy’n ystyriol o drawma ac yn ei gefnogi, yn lle ychwanegu mwy o hyfforddiant yn y maes hwn. Felly dull mwy soffistigedig a chyfannol nag y mae hyfforddiant didactig yn ei gynnig.

Cwrdd â’r Tîm

Bronwyn Roane

Cyd-gadeiryddion Y Gweithgor

Ymunais â Hyb ACE Cymru ym mis Ebrill 2023 fel Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Strategaeth, Sgiliau a Hyfforddiant. Gyda chefndir fel Therapydd Galwedigaethol (ThG) a 12 mlynedd o brofiad yn y GIG, roedd fy rolau blaenorol yn cynnwys ymgysylltu’n uniongyrchol â phlant, pobl ifanc a theuluoedd, gan arwain at swyddi uwch mewn ThG plant. Mae fy ngwaith wedi dangos i mi bwysigrwydd darparu’r cymorth cywir ar yr adeg gywir i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Rwy’n credu mewn creu gwasanaethau sy’n gynhwysol, sy’n ystyriol o drawma ac sy’n cael eu datblygu ar y cyd â’r rhai sy’n eu defnyddio.

Mae gweithio yn Hyb ACE wedi bod yn brofiad gwerth chweil, gan fy ngalluogi i gyfrannu at y daith i greu Cymru sy’n ystyriol o drawma. Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun sut y gall dull sy’n ystyriol o drawma wneud gwahaniaeth sylweddol, a dyna pam yr wyf yn frwd dros gymryd rhan mewn mentrau sy’n cysylltu meysydd ymarfer i ysgogi newid systemig.

Dr Katie Brown

Cyd-gadeiryddion Y Gweithgor

Mae Dr Katie Brown (BSs (Anrh), DCLINPSY) yn Arweinydd Llwybr Straen Trawmatig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM) ac yn Seicolegydd Clinigol.

Mae Katie wedi gweithio yn y gwasanaethau i oedolion drwy gydol ei gyrfa yn y sector annibynnol a’r GIG. Mae’r rhan fwyaf o yrfa Katie wedi cynnwys cyflwyno a datblygu ffyrdd seicolegol, sy’n ystyriol o drawma o weithio o fewn gwasanaethau fforensig. Yn fwy diweddar, mae’n mwynhau gweithio fel Arweinydd Straen Trawmatig Cymru ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddatblygu ymarfer sy’n ystyriol o drawma a darparu llwybrau cymorth effeithlon a symlach i unigolion sydd wedi profi trawma yn yr ardal leol.

Mae gan Katie ddiddordeb hirsefydlog mewn cefnogi unigolion, timau a systemau sydd wedi profi trawma. Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi gweithio gydag unigolion â thrawma difrifol a chymhleth, gan hyfforddi ym mhob un o’r prif ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer trawma. Mae hi’n angerddol am hyrwyddo gofal tosturiol sy’n ystyriol o drawma gan ysgogi gwelliant o ran ansawdd a meithrin newid diwylliannol ystyrlon o fewn sefydliadau. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fod yn gyd-arweinydd ffrwd waith Gwybodaeth a Sgiliau ar Waith sy’n cysylltu a chydweithio i ddatblygu gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma sydd wedi’u cyd-berchen, wedi’u cyd-gynhyrchu ac sy’n gynhwysol. Y nod yw rhoi cyfle i bob aelod o gymdeithas dyfu a datblygu i fod yn driw i’w hunain.

Mae 10 aelod craidd ar y gweithgor hwn ar hyn o bryd a bydd mwy yn cael eu nodi

Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal ar yr elfen 'rhoi ar waith', a sut mae hyn yn aml yn fwy ystyrlon na'r elfen hyfforddi.

Mae cynlluniau ar droed i gomisiynu darn o waith i adolygu llenyddiaeth ac arfer yng Nghymru ar gyflawni newid diwylliannol i gefnogi’r ffocws ar weithredu ac arfer.

Cynhaliwyd sesiynau sbotolau yng nghyfarfod y Grŵp Llywio Gweithredu Cenedlaethol ym mis Medi 2024 a mis Mawrth 2025; cafwyd cyflwyniad ar gynnydd y grŵp hyd hynny.