Gallai pawb yng Nghymru elwa ar ddeall trawma ac adfyd. I rai ohonom, efallai mai mater o ddeall trawma ac adfyd yn unig y bydd yn ei olygu, a’r effaith y gallant eu cael ar unigolion. Bydd angen i eraill wybod sut i fynd ati i gefnogi rhywun sydd wedi profi trawma. Felly, mae cynyddu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ynghylch trawma ac adfyd yn rhan bwysig o ddod yn ystyriol o drawma ond nid yw hyfforddiant yn unig yn ddigon i ymwreiddio dull sy’n ystyriol o drawma.
Yn y rhan hon, gallwch weld y lefelau ymarfer, cyflwyniad i’r hyn ydynt, adnoddau sy’n rhoi esboniad arnynt ac enghreifftiau o’r hyfforddiant sydd ar gael yng Nghymru ar bob lefel.
Mae gan Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma bedair lefel ymarfer ddiffiniedig. Bydd pob person yng Nghymru yn ffitio i mewn i un neu fwy o'r lefelau hyn yn eu bywydau personol a phroffesiynol. Am ragor o wybodaeth am y lefel rydych chi'n ffitio iddi a'r hyfforddiant a'r adnoddau sydd ar gael i chi, gweler isod:
Mae’r dull ymwybodol o drawma yn ddull cyffredinol sy’n pwysleisio’r rôl sydd gan bob un ohonom yn aelodau o gymdeithas Cymru, yn bersonol ac yn broffesiynol, ac sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Mae’n herio canfyddiadau sy’n cynnal gormes ac anghydraddoldeb, ac sy’n amlygu bod gan bobl ym mhob cymuned ran i’w chwarae wrth atal ACEs, adfyd a digwyddiadau trawmatig, darparu ymatebion a arweinir gan y gymuned i effaith profiadau ACE a thrawma, a chefnogi gwytnwch trwy gysylltiad, cynhwysiant a thosturi.
Dysgu MwyMae dull medrus ynghylch trawma wedi’i wreiddio o fewn arfer pawb sy’n darparu gofal neu gymorth i bobl a allai fod wedi profi trawma, pa un a yw’r trawma yn hysbys ai peidio. Mae hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o sefydliadau a gwasanaethau yng Nghymru, a llawer sy’n gweithio yn y gymuned a gyda hi.
Dysgu MwyDefnyddir dull trawma gwell gan weithwyr rheng flaen sy’n darparu cymorth uniongyrchol neu ddwys i bobl y gwyddys eu bod wedi profi digwyddiadau trawmatig yn eu rôl, ac mae’n cwmpasu ffyrdd o weithio i helpu pobl i ymdopi ag effaith eu trawma.
Dysgu MwyGall ymyriadau arbenigol fod yn ymyriadau ffurfiol wedi’u personoli ac wedi’u cyd-gynhyrchu a gynigir o fewn ystod o leoliadau, neu fewnbwn arbenigol i gefnogi sefydliadau a systemau i fod yn ystyriol o drawma.
Dysgu MwyRydym yn argymell eich bod yn gwneud asesiad o ba lefelau ymarfer sydd eu hangen arnoch drwy Offeryn Hunanasesu Hyb ACE Cymru a fydd yn helpu i fyfyrio a deall y cynnydd y mae eich sefydliad yn ei wneud wrth ymwreiddio ymarfer sy’n ystyriol o Drawma a profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE), a datblygiad strategaeth hyfforddi.