Trawma-ymwybodol

Mae Ymwybodol o Drawma yn ddull cyffredinol sy’n pwysleisio’r rôl sydd gennym i gyd fel aelodau o gymdeithas Cymru wrth atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, adfyd a thrawma, a darparu ymatebion dan arweiniad y gymuned mewn perthynas â’u heffaith, a chefnogi gwydnwch trwy gysylltiad, cynhwysiant a thosturi.

Gweithio ar lefel ymwybodol o drawma

Mae Nia yn fam ifanc ac mae’n gweithio yn y dderbynfa mewn ysgol gynradd. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio yno a bod y cyntaf i gyfarch plant a rhieni wrth iddyn nhw gyrraedd yr ysgol yn y bore. Gwyliwch yr animeiddiad byr hwn i weld sut mae Nia yn cyflwyno dull ymwybodol o drawma i’w rôl.

Gweld yr Animeiddiad

Enghreifftiau Cymwyseddau

Bydd y cymwyseddau hyn yn eich helpu i nodi cyfuniad o sgiliau, gwybodaeth, ymddygiadau a rhinweddau a fydd yn cefnogi ymarfer effeithiol ar y lefel hon.

Gweld yr Enghreifftiau

Hyfforddiant ar lefel ymwybodol o drawma

Mae hyfforddiant ar lefel ymwybodol o drawma wedi’i anelu at bawb yng Nghymru, gan gynnwys unigolion, teuluoedd, cymunedau, gwasanaethau a sefydliadau.

Os ydych chi’n ystyried comisiynu hyfforddiant neu ddilyn hyfforddiant sy’n nodi’n benodol ei fod ar lefel ymwybodol o drawma neu y credwch ei fod ar y lefel honno, dylech ddisgwyl iddo gyfeirio at egwyddorion a lefelau ymarfer Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma a’i fod yn hygyrch i unrhyw un yn y sefydliad ar y lefel hon. Ni fydd yn darparu popeth sydd angen i chi ei wybod i fod yn ymwybodol o drawma. Efallai y bydd angen i chi ystyried amrywiaeth o adnoddau yn seiliedig ar anghenion y bobl yn eich sefydliad neu gymuned sy’n adlewyrchu sgiliau ac anghenion datblygu.

Gweld yr Adnoddau