Mae’r lefel manwl o ran trawma wedi’i hanelu at weithwyr rheng flaen sy’n rhoi cefnogaeth uniongyrchol neu ddwys i bobl y gwyddys eu bod wedi profi digwyddiadau trawmatig yn eu rôl, ac mae’n cwmpasu ffyrdd o weithio i helpu pobl i ymdopi ag effaith eu trawma.
Mae Emyr yn weithiwr cymdeithasol. Mae wrth ei fodd yn ei swydd ac am gefnogi pobl hŷn yn ei gymuned i gyrraedd eu nodau. Mae’n gwybod bod rhai o’r bobl y mae’n eu gweld yn rheolaidd yn ei chael hi’n anodd talu am fwyd a’u bod yn cael eu trin yn wahanol gan eraill, weithiau, am eu bod nhw’n edrych yn wahanol, neu’n newydd i’r ardal. Gwyliwch yr animeiddiad byr hwn i weld sut mae Emyr yn cyflwyno dull medrus o ran trawma i’w rô.
Gweld yr AnimeiddiadBydd y cymwyseddau hyn yn eich helpu i nodi cyfuniad o sgiliau, gwybodaeth, ymddygiadau a rhinweddau a fydd yn cefnogi ymarfer effeithiol ar y lefel hon.
Gweld yr EnghreifftiauMae’r hyfforddiant ar lefel manwl o ran trawma wedi’i anelu at bobl mewn sefydliadau sy’n rhoi cefnogaeth uniongyrchol neu ddwys i bobl y gwyddys eu bod wedi profi digwyddiadau trawmatig.
Os ydych chi’n ystyried comisiynu hyfforddiant neu ddilyn hyfforddiant sy’n nodi’n benodol ei fod ar lefel manwl o ran trawma neu y credwch ei fod ar y lefel honno, dylech ddisgwyl iddo gyfeirio at egwyddorion a lefelau ymarfer Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma. Dylai adeiladu ar wybodaeth a gafwyd ar lefelau ymwybodol o drawma a medrus o ran trawma, ac arfogi pobl â’r sgiliau i adnabod rhywun mewn trallod ac i ymyrryd.
Gweld yr Adnoddau