Prosiect Cymru Ystyriol o Drawma: Mae'r Mapio a Bylchu yn nodi darparwyr hyfforddiant wedi’u llywio gan drawma sydd ar gael yng Nghymru, a all gefnogi’r gwaith o roi Fframwaith Cymru Ystyriol o Drawma ar waith. Rwy’n ystyried sut y maent yn mapio ar draws i’r Fframwaith gan ganolbwyntio ar y lefelau ymarfer.
Mae gan y Fframwaith Ymarfer i Gymru Sy’n Ystyriol O Drawma bedair lefel ymarfer diffiniedig. Mae’r lefelau’n disgrifio’r gwahanol rolau y gallai fod gan bobl o fewn amrywiaeth o gyd-destunau ac yn cynrychioli sbectrwm yn hytrach na hierarchaeth.
Mae’r dull ymwybodol o drawma yn ddull cyffredinol sy’n pwysleisio’r rôl sydd gan bob un ohonom yn aelodau o gymdeithas Cymru, yn bersonol ac yn broffesiynol, ac sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Mae’n herio canfyddiadau sy’n cynnal gormes ac anghydraddoldeb, ac sy’n amlygu bod gan bobl ym mhob cymuned ran i’w chwarae wrth atal ACEs, adfyd a digwyddiadau trawmatig, darparu ymatebion a arweinir gan y gymuned i effaith profiadau ACE a thrawma, a chefnogi gwytnwch trwy gysylltiad, cynhwysiant a thosturi.
Dysgu MwyMae dull medrus ynghylch trawma wedi’i wreiddio o fewn arfer pawb sy’n darparu gofal neu gymorth i bobl a allai fod wedi profi trawma, pa un a yw’r trawma yn hysbys ai peidio. Mae hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o sefydliadau a gwasanaethau yng Nghymru, a llawer sy’n gweithio yn y gymuned a gyda hi.
Dysgu MwyDefnyddir dull trawma gwell gan weithwyr rheng flaen sy’n darparu cymorth uniongyrchol neu ddwys i bobl y gwyddys eu bod wedi profi digwyddiadau trawmatig yn eu rôl, ac mae’n cwmpasu ffyrdd o weithio i helpu pobl i ymdopi ag effaith eu trawma.
Dysgu MwyGall ymyriadau arbenigol fod yn ymyriadau ffurfiol wedi’u personoli ac wedi’u cyd-gynhyrchu a gynigir o fewn ystod o leoliadau, neu fewnbwn arbenigol i gefnogi sefydliadau a systemau i fod yn ystyriol o drawma.
Dysgu Mwy